Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 94(6) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

y dreth dirlenwi, cymru

Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 29(1)(a) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3).

Mae’r diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yn galluogi i’r rhyddhad adfer safle gael ei gymhwyso i warediad deunydd sy’n uwchbridd i gyd. Bydd y diwygiad yn cael effaith mewn perthynas â gwarediadau trethadwy a wneir ar [y dyddiad y daw’r rheoliadau i rym] neu ar ôl hynny.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o’r asesiad oddi wrth: Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.


 Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 94(6) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

2018 Rhif (Cy. )

Y DRETH DIRLENWI, CYMRU

Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 33 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017([1]).

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad, yn unol ag adran 94(6) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Diwygio Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

2. Yn adran 29(1) (defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwy) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, yn lle paragraff (a) rhodder—

(a) yn warediad deunydd—

                       (i)  sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu

                      (ii)  sy’n uwchbridd i gyd, a.

 

 

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])   2017 dccc 3.